Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 14 Medi 2020
Amser:
14.30
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Bethan Davies
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6372
SeneddCyllid@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(14.30)
2 Papur(au) i’w nodi
(14.30) (Tudalennau 1 - 3)
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2020
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Buddsoddiad Rhanbarthol ar ôl Brexit - 20 Gorffennaf 2020
(Tudalennau 4 - 9)
2.2 PTN 2 – Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at y Prif Weinidog: Ymchwiliad cyhoeddus i'r ymateb i bandemig y Coronafeirws yng Nghymru – 30 Gorffennaf 2020
(Tudalennau 10 - 11)
2.3 PTN 3 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth mewn perthynas â'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 27 Gorffennaf 2020
(Tudalennau 12 - 62)
2.4 PTN 4 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor: Craffu ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2020-21
(Tudalennau 63 - 78)
2.5 PTN 5 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Gwybodaeth am y blaengynllunio ariannol ar gyfer cyrff a ariennir yn uniongyrchol - 11 Awst 2020
(Tudalennau 79 - 80)
2.6 PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Diweddariad ar y symiau canlyniadol y mae Cymru wedi'u cael yn sgil COVID-19 - 19 Awst 2020
(Tudalennau 81 - 85)
2.7 PTN 7 - Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Ymateb ariannol i Covid-19 - 5 Medi 2020
(Tudalennau 86 - 88)
2.8 PTN 8 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Diweddariad ar gais ffurfiol Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU am ddatganoli rhagor o gymhwysedd trethi - 8 Medi 2020
(Tudalen 89)
3 Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth
(14.30-15.30) (Tudalennau 90 - 125)
Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Bil - Uwch-swyddog Ymchwil
Simon White, Pennaeth Strategaeth Tai a Deddfwriaeth
Rob Owen, Rheolwr Deddfwriaeth Rhentu Cartrefi
Papurau ategol:
Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)
FIN(5)-15-20 P1 - Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - Ymateb i gwestiynau ar y Bil - 16 Gorffennaf 2020
Papur briffio’r Gwasanaeth Ymchwil
Egwyl (15.30-15.35)
4 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020: Sesiwn dystiolaeth
(15.35-16.15) (Tudalennau 126 - 133)
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Andrew Hewitt, Pennaeth Trethi a Deddfwriaeth
Dr Tom Nicholls, Cynghorydd Economaidd
Papurau ategol:
FIN(5)-15-20 P2 - Cyngor cyfreithiol
Papur briffio’r Gwasanaeth Ymchwil
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
(16.15)
6 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020: Trafod y dystiolaeth
(16.15-16.30)
7 Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Trafod y dystiolaeth
(16.30-16.45)
8 Trafod y flaenraglen waith
(16.45-16.55) (Tudalennau 134 - 141)
Papurau ategol:
FIN(5)-15-20 P3 – Blaenraglen waith
9 Gwaith ymgysylltu ar yr ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol
(16.55-17.00) (Tudalennau 142 - 152)
Papurau ategol:
FIN(5)-15-20 P4 – Gwaith ymgysylltu ar yr ymchwiliad